FOCUS Wales 2025
15fed flwyddyn yr ŵyl ryngwladol
250+ o artistiaid ar draws 20 llwyfan gwahanol yn Wrecsam — ac yn eu plith — bydd y pedwar enw isod yn chwarae fel rhan o Lwyfan Klust ar nos Iau 8fed Mai. Gwnewch nodyn.
Tokomololo — HWB, 17:20
Heb os un o artistiaid fwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd, Tokomololo yw prosiect y cerddor a’r aml offerynnydd, Meilir Tee Evans. Ers rhyddhau am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2023, mae Tokomololo wedi araf ddatblygu ei grefft o gyfuno alawon hypnotig hyfryd gyda melodïau moethus, sydd byth yn dianc yn bell. Bellach wedi ymgartrefu tu ôl i’w allweddellau arferol a’i laptop sy’n lŵpio, bydd ei EP gyntaf, Cysgod Lliwgar, allan am 17:00 ddydd Iau 8fed Mai drwy label HOSC. Gweadau pefriog a churiadau cynnil clud, dyma flas i aros pryd.
Cyn Cwsg — HWB, 18:10
Wedi rhai misoedd cysglyd, mae’r band pedwar aelod sy’n galw Caerdydd, Leeds a Chaernarfon yn gartref, yn deffro wrth i’r haf agosáu. Yn camu’n ôl o’u dylanwadau breuddwydiol – a’n symud i dir mwy haenog, niwlog y gitâr – ddydd Iau nesaf fydd y tro cyntaf i Cyn Cwsg chwarae fel band llawn yn Wrecsam, a hynny ar ôl iddynt ymweld â stiwdio Tom Rees (Buzzard Buzzard Buzzard) fis diwethaf. Tra bod sibrwd siarad felly bod ambell i drac newydd ar y gorwel, dewch ’dan do’r HWB i’w dal yn fyw.
Griff Lynch — HWB, 19:00
Cerddor. Cyfarwyddwr. Cynhyrchydd. Y gymysgfa waethaf posib i unrhyw un sy’n torri bol clywed ei stwff newydd sbon. Yn nofio mewn pwll sy’n cynnwys synths heintus, curiadau swil, a geiriau sy’n pigo cydwybod, mae Griff Lynch — blaenwr y band indie-psych, Yr Ods — yn ei ôl, gyda’i albwm gyntaf ar y ffordd. Wedi iddo arbrofi gyda’i ddeunydd newydd yng ngŵyl Sŵn y llynedd, a hefyd chwarae yn Llundain fel rhan o’n gig gaeafol ychydig cyn y Nadolig, hir yw’r ymaros i weld Griff Lynch nôl ar lwyfan ddydd Iau nesaf.
Malan — HWB, 19:50
Wedi iddi ymddangos ar ein halbwm aml-gyfrannog ‘Stafell Sbâr Sain: Klust’ y llynedd, pleser yw cyhoeddi mai Malan fydd yn cau Llwyfan Klust yn FOCUS Wales 2025. Er bod ei chyfuniad unigryw o jazz a phop wedi dal ein sylw ers rhai blynyddoedd bellach, mae’n debyg bod sawl clust arall yn gwrando ar ei sengl newydd, ‘Dau Funud’, wedi iddi dderbyn cefnogaeth gan Spotify a’u rhestrau chwarae nodedig, Jazz UK a Fresh Finds, yn ddiweddar. Yn yr un drafodaeth ag artistiaid fel Eloise, Mathilda Homer, ac Olivia Dean, curiadau cynnes Malan fydd yn cadw cwmni ’dan fachlud Wrecsam nos Iau 8fed Mai.
FOCUS Wales 2025